Shows / Clera
Clera
Podlediad misol sy'n trafod barddoni gyda'r bwystfil barddol a elwir yn Aneurig (Aneirin Karadog ac Eurig Salisbury)
Episodes
CleraClera Hydref 2026 - Deng mlwyddiant y podlediad
Mae Clera'n dathlu'r dengmlwyddiant y mis hwn! Mae gyda ni gyfraniadau arbennig gan Menna Elfyn, Ceri Wyn Jones a Myrddin ap Dafydd ynghyd â blas o rhai o…
CleraClera Medi 2026
croeso i bennod mis Medi lle mae llwch llantwd yn dal i fod yn ein gwalltiau! Cawn sgwrs ddifyr a swmpus gyda Phrifardd y Gadair, Emyr Lewis ac fe gawn glywed…
CleraClera Awst 2026
Croeso i bennod fyw o Clera yn y Babell Lên gyda'n gwesteion arbennig, sef Enfys Hatcher ac Endaf Griffiths. Gyda digon o drafod, barddoni, cerddi, gemau a…
CleraClera Gorffennaf 2026
Croeso i bennod mis Gorffennaf o bodlediad Clera. Dyma hi'n gynnar ar eich cyfer gan y daw pennod mis Awst yn fyw o'r Babell Lên yn ddigon buan wedi'r Brifwyl…
CleraClera Mehefin 2026
Croeso i bennod mis Mehefin o bodlediad barddol hynaf Cymru! Mae'r bennod hon yn un sydd â blas o'r Garreg Las iddi! Cawn brofi rhywfaint ar ddathliadau 850…
CleraClera Mai 2026
Hawddamor, glwysgor glasgoed! Croeso i bennod mis Mai o bodlediad barddol hynaf y Gymraeg. Y mis hwn cawn sgwrs am ddylanwad beirdd fel Dic Jones ar…
CleraClera Ebrill 2026
Mae'r gwanwyn wedi dod! â phennod newydd o bodlediad Clera gydag e! Yn y bennod hon cawn drafodaeth ar reol gwrth-gynganeddol Y Goron yn yr Eisteddfod…
CleraClera Mawrth 2026
Croeso i bennod mis Mawrth, 2026 o bidlediad Clera. Y tro hwn cawn gwmni dau Fardd Plant, sef cyn-fardd Blant Cymru, Nia Morais, sy'n darllen cerdd o'i chyfrol…

CleraClera Ionawr 2026
Blwyddyn newydd dda i chi gyd! Croeso i bennod blygeiniol o bodlediad Clera. Y mis hwn cawn sgwrs ddifyr gydag Arfon Gwilym, beirniadaeth finiog arall gan…

CleraClera Tachwedd 2025
Croeso i bennod y mis du o bodlediad Clera. Mae tachwedd wedi oeri yn sydyn, felly dyma'r cydymaith perffaith i chi wrth gadw'n dwym ac yn glyd neu wrth fynd…
CleraClera Hydref 2025
Croeso i bennod mis Hydref o bodlediad Clera. Yn y rhifyn hwn byddwn ni'n dathlu bywyd a gwaith Dic yr Hendre wrth inni fynd ar daith o gwmpas cynefin y…
CleraClera Medi 2025
Croeso i bennod mis Medi, 2025 o bodlediad Clera. Y tro hwn cawn sgwrs gydag enillydd Cadair Wrecsam, y Prifardd Tudur Hallam, cerdd gan y Prifardd Carwyn…
CleraClera Awst 2025
Croeso i bennod arbennig o Clera wrth inni edrych ymlaen at Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam. Y tro hwn, rydyn ni'n pwnco am draddodiad 'y cyff clêr' gyda'r…
CleraClera Gorffennaf 2025
Croeso i bennod mis Gorffennaf o bodlediad Clera, lle mae barddoniaeth Gymraeg yn cael sylw haeddiannol! Y mis hwn, byddwn yn pwnco ynglŷn â'r traddodiad o…
CleraClera Mehefin 2025
Croeso i bennod mis Mehefin o bodlediad Barddol Cymraeg hyna'r byd! Yn y bennod orlawn hon, mae gennym eitem arbennig ar eich cyfer, wedi ei recordio yn…
CleraClera Mai 2025
Duw gwyddiad mae da gweddai Dechreuad mwyn dyfiad Mai. Fel gwedodd Dafydd ap Gwilym, mae'n braf gweld mis Mai (ond fe'i gwedodd yn well!). Croeso i bennod…
CleraClera Ebrill 2025
Croeso i bennod mis Ebrill o bodlediad Clera. Y mis hwn rydyn ni'n trafod yr hyn sydd ar dân ar wefusau pawb ledled Cymru....teitlau cerddi! Yn ogystal â…

CleraClera Chwefror 2025
Croeso i bennod y mis bach o bodlediad barddol Clera. Y tro hwn cawn gwmni difyr Y Prifardd Rhys Iorwerth a Gruff Davies sy'n trafod y ffilm newydd Bardd…

CleraClera Rhagfyr 2024
Gyda chyfarchion yr Ŵyl, croeso mawr i chi i bennod mis Rhagfyr, 2024 o Clera. Mae gyda ni wledd o lyfrau a sgyrsiau â'r beirdd a'u saerniodd ar eich cyfer…
CleraClera Tachwedd 2024
Croeso i bennod y mis Du o bodlediad Clera. Y tro hwn cawn glywed cerdd arobryn Mared Fflur Jones a enillodd Gadair Eisgteddfod Genedlaethol y Ffermwyr Ifanc…
CleraClera Hydref 2024
Croeso i bennod mis Hydref o bodlediad Clera. Y tro hwn cawn y fraint o sgwrsio gyda Phrifardd y Goron, Gwynfor Dafydd, i drafod pob math o bethau am y byd…
CleraClera Medi 2024
Croeso i bennod hynod o swmpus o bodlediad Clera. Yn rhifyn mis Medi cawn nid yn unig glywed llais yr Archdderwydd, Mererid Hopwood yn trafod gwaith arobryn…
CleraClera Awst 2024 - Yn Fyw o'r Babell Lên
Croeso i bennod arbennig o Clera - yn fyw o'r Babell Lên. Ar sadwrn ola'r brifwyl wych a gynhaliwyd ym Mhontypridd, cawsom gwmni gwesteion ffraeth a difyr, sef…
CleraClera Gorffennaf 2024
Croeso i bennod mis Gorffennaf o bodlediad barddol Cymraeg hyna'r byd! Yn y rhifyn hwn, cawn sgwrs ddifyr gyda Bardd y Gadair yn Eisteddfod yr Urdd eleni, Lois…
CleraClera Mehefin 2024
Croeso i bennod Mis Mehefin o bodlediad barddol Clera. Y Mis hwn, Elinor Wyn Reynolds sy'n tafoli cyfrolau barddol Llyfr y Flwyddyn ac yn rhoi ei phen ar y…
CleraClera Mai 2024
Hawddamor, glwysgor glasgoed! Croeso i bennod Mis Mai o bodlediad Clera. Yn hoff fis Dafydd ap Gwilym cawn drafod llawysgrif newydd y mae'r Llyfrgell…
CleraClera Ebrill 2024
Croeso i bennod mis Ebrill o bodlediad barddol Clera. Y mis hwn cawn y pleser o holi Sioned Dafydd, Cyflwynydd Sgorio a Golygydd y flodeugerdd newydd o gerddi…
CleraClera Mawrth 2024
Croeso i bennod mis Mawrth o bodlediad Clera. Y tro hwn rydyn ni'n Pwnco am Pencerdd - cynllun cyffrous Pencerdd lle mae 5 bardd yn cael blwyddyn gyda 5 athro…
CleraClera Chwefror 2024
Croeso i bennod y Mis Bach o bodlediad barddol Cymraeg hyna'r byd! Yn y bennod hon cawn bwnco yng nghwmni mari George a Jo Heyde wrth i ni drafod cyfrol newydd…
CleraClera Ionawr 2024
Blwyddyn newydd dda i chi gyd! Ym mhennod gynta'r flwyddyn cawn ddwy gerdd arbennig gan y Prif Lenor Sioned Erin Hughes. Byddwn hefyd yn Pwnco am Bwnco!…
CleraClera Rhagfyr 2023
Croeso i bennod mis Rhagfyr o Clera. Mae 'na gymysgedd o eitemau Nadolig ac eitemau oesol yn y bennod hon. Cawn y fraint o rannu darlith Gurffudd Antur a…
CleraClera Tachwedd 2023
Croeso i bennod y Mis Du o bodlediad Clera. Yn gydymaith i chi wrth i'r nosweithi dywyllu'n gynt bydd arlwy difyr o'r byd barddol Cymraeg. Cawn sgwrs ddifyr a…
CleraClera Hydref 2023
Croeso i bennod mis Hydref o bodlediad barddol hyna'r byd yn y Gymraeg. Y tro hwn cawn sgwrs hynod ddifyr a theimladwy gyda'r Prifardd Gruffudd Eifion Owen…
CleraClera Medi 2023
Croeso i bennod mis Medi o bodlediad barddol Cymraeg hynaf y byd! Yn y bennod hon cawn sgwrs gyda phrifardd y Goron, Rhys Iowerth am ei gerddi arobryn. Hefyd…
CleraClera Awst 2023
Croeso i bennod mis Awst o Clera, sy'n dechrau ar y gwaith o drin a thrafod a thafoli'r Eisteddfod yng nghwmni'r Prifardd Hywel Griffiths. Byddwn yn gwneud mwy…
CleraClera Gorffennaf 2023
Croeso i bennod mis Gorffennaf o bodlediad barddol cymraeg hyna'r byd! Yn y bennod hon, cawn nid un, nid dwy, nid tair a na, nid pedair ond pum cerdd gan…
CleraClera Mehefin 2023
Croeso i'r bennod swmpusaf erioed o bodlediad Clera! Yn ogystal â thrin a thrafod y cyfnod hynod brysur sydd ar ein gwarthaf yn y byd barddol, a llongyfarch…
CleraClera Mai 2023 - Eisteddfod yr Urdd
Pennod arbennig o faes Eisteddfod yr Urdd, Sir Gâr yn Llanymddyfri. Cawn sgyrsiau gyda chyn-enillwyr Cadair yr Urdd, Iwan Rhys a Kayley Sydenham ynghyd â…
CleraClera Ebrill 2023
Croeso i bennod mis Ebrill 2023 o bodlediad barddol Cymraeg hynaf y byd. Y mis hwn cawn Orffwysgerdd arbennig gan y Prifardd Mererid Hopwood, yn ogystal â…
CleraClera Mawrth 2023
Croeso i bennod mis Mawrth. Gydag arwyddion bod y gwanwyn ar ei ffordd, a chyn hir Eisteddfod arall ym mis awst, cawn sgwrs ddifyr gyda dau a ddaeth yn deilwng…
CleraClera Chwefror 2023
Croeso i bennod y Mis Bach! Y tro hwn, cawn gyfle am fash-yp cyffrous rhwng Podlediad Clera a Haclediad, sef y podlediad hynaf yn y Gymraeg. Diolch i Sioned…
CleraClera Ionawr 2023
Croeso i bennod mis y Cariadon. Ym mhennod mis Ionawr o clera cawn sgwrs gyda g Golygydd blodeugerdd wych newydd o'r enw 'Cariad, (Cyhoeddiadau Barddas), sef…
CleraClera Rhagfyr 2022
Nadolig llawen i chi gyd! Ym mhennod mis Rhagfyr o Clera bydd Gruffudd a'i Ymennydd llawn Manion yn trafod llinacahu barddol gyda ni yn y Pwnco, a detholiad o…
CleraClera Tachwedd 2022
Dewch mewn o'r gwynt a'r glaw i swatio gyda ni a mwynhau pennod y Mis Du. Yn y rhifyn hwn, byddwn yn Pwnco mewn 2 ran gyda'r Prifardd Llŷr Gwyn Lewis. Cawn…
CleraClera Hydref 2022
Croeso i bennod mis Hydref 2022 o Clera. y tro hwn cawn sgwrs llawn o ddifyrrwch a dwyster gyda Phrifardd Coron Eisteddfod genedlaethol Tregaron, Esyllt…
CleraClera Medi 2022
Ym mhennod mis Medi o bodlediad Clera cawn yr olwg gyntaf ar Gyfansoddiadau a Beirniadaethau Eisteddfod Genedlaethol Tregaron yng Nghwmni Osian Wyn Owen…
CleraClera'n Fyw o Steddfod Tregaron 2022
Clera'n fyw o Lwyfan y Llannerch yn Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion 2022 yn Nhregaron. Diolch i'r gwesteion gwych, Buddug Roberts, Jo Heyde a Llio Maddocks…
CleraClera Gorffennaf 2022
Croeso i rifyn rhagflas y Brifwyl! Gyda chyfraniadau difyr a doeth gan Jo Heyde (trafod llyfrau barddol llyfr y flwyddyn), Anwen Pierce (Cywydd Croeso yr…
CleraClera Mehefin 2022
Croeso i bennod mis Mehefin o Clera! Cawn sgwrs gyda Phrifardd yr Urdd, Ciaran Eynon am ei gerdd arobryn ar y testun 'Diolch' yn ogystal â sgwrs gyda'n…
CleraClera Mai 2022 - Huw Morys, 'Eos Ceiriog'
Croeso i rifyn mis Mai o Clera. Rhifyn arbennig yw hwn sy'n trafod a dathlu bywyd a gwaith y Bardd o Ddyffryn Ceiriog, Huw Morys. Mwynhewch
CleraClera Ebrill 2022
Croeso i bennod mis Ebrill o bodlediad barddol Clera. Cawn gip-wrandawiad ar lansiad cyfrol newydd Menna Elfyn wrth i Elinor WYn Reynolds holi;r bardd yng…
CleraClera Mawrth 2022
Mae'r gwanwyn wedi dod â phennod newydd o Clera yn ei sgil. Cyfrniadau gwych a difyr gan Kate Wheeler yn ein heitem newydd sef, 'Gwrando Awen ein Gwradawyr'…
CleraClera Chwefror 2022
Mae eisiau beirdd ar y mis bach! (Mererid Hopwood a'i cant). Croeso i bennod mis Chwefror o Clera lle cawn gwmni Gwilym Bowen Rhys, Twm Morys a Gwyneth Glyn…
CleraClera Ionawr 2022
Blwyddyn newydd ddaa chroeso i bennod gyntaf Clera yn 2022! Y mis hwn, yng nhgwmni Aneurig a Gruffudd Antur cawn Orffwysgerdd gan Jo Heyde, cyfraniadau am eu…
CleraClera Rhagfyr 2021
Nadolig llawen i chi gyd gan griw Clera. Mwynhewch y bennod ola o'r flwyddyn hon, sy'n cynnwys sgyrsiau difyr gyda Bardd Plant Cymru 2021-23, Casi Wyn a'r…
CleraClera Tachwedd 2021
Croeso i bennod y Mis Du o Clera. Y tro hwn cawn longyfarch Carwyn Eckley ar ei gamp yn ennill Cadair yr Urdd Dinbych 2020, gan hefyd lognyfarch Ianto Jones ac…