skinny.

Latest / Yr Haclediad

Such Proffesiynoldeb, Much Safon

🎒Tymor newydd, Haclediad newydd!

Pennod ola desperate yr haf o’r Haclediad sy’n dod atoch chi heddiw, diolch i olygu medrus Iestyn Lloyd ar fferi i Iwerddon (dedication ar y diawl Iest, nais won).

Bydd Iestyn, Sions a Bryn yn speedrunio straeon tech yr haf - Kobo 🤝 Instapaper, symud searches ni gyd draw i Kagi, deud helo i browser newydd Dia, llanast recordio, bywyd Steve Wozniak a llawer mwy!

Primo #Ffilmdiddim y mis ydy’r gampwaith “Gods of Egypt” - High camp values? Iep! Clueless protagonists? Deffo! Gerard Butler? WRTH GWRS!

Neidiwch mewn i bwll nofio’r haclediad am un splash hafaidd olaf…

The skinny

The skinny isn't ready yet — notes appear once the transcript is processed.