
Cyfres 2, Pennod 1 : Paul Davies
Yr actor a pherfformiwr Paul Davies yw gwestai Bethan Richards. Wedi ei eni gyda dim ond un o'i ddwylo, mae agwedd Paul tuag at ei wahaniaeth corfforol wedi newid droeon dros y blynyddoedd, ac yma mae'n esbonio sut y dysgodd i dderbyn ei hun a bod yn hyderus yn ei hunaniaeth.
Cafodd ei fagu yn y Rhondda gan fwynhau profiadau cadarnhaol o fewn y gymuned glos. Tra yn ddisgybl ysgol defnyddiodd hiwmor a pherfformio i ymdopi gyda'i anabledd, arweiniodd hyn at yrfa o gyflwyno a pherfformio gan gynnwys cyfnod yn gweithio fel 'cot goch' mewn gwersyll gwyliau. Yno roedd yn ymfalchïo yn ei anabledd…
The skinny
The skinny isn't ready yet — notes appear once the transcript is processed.